Рет қаралды 10
Gall Llwybr Coed Nercwys fod yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol gan gynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.
Bydd y ffilm hon yn helpu pobl i weld pa mor addas yw’r llwybr cyn iddynt ymweld, a ph’un a fyddai angen help arnynt ar rai rhannau ohono.
Mae’r ffilm yn dangos arwyneb y llwybr, y bryniau a’r llethrau i fyny ac i lawr. Unigolyn anabl sy’n siarad yn y ffilm, ac mae’n gwneud hynny wrth iddo deithio ar hyd y llwybr trwy ddefnyddio’i gyfarpar ei hun.
Mae’n rhan o gyfres o ffilmiau’n sôn am rai o’n llwybrau ac fe’i cynhyrchwyd gan Experience Community.
Cwmni Buddiannau Cymunedol nid-er-elw yw Experience Community, ac mae’n cynnig gwybodaeth am weithgareddau hamdden ar gyfer pobl anabl (experiencecommunity.co.uk).
Sylwer: nid yw’r ffaith fod llwybr wedi’i gynnwys yn un o’r ffilmiau hyn yn awgrymu ei fod yn hygyrch i bob ymwelydd anabl.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Choed Nercwys, ewch i’n gwefan:
cyfoethnaturiol.cymru/coedner...