Рет қаралды 9,301
Mei Gwynedd
Dyddiau Gwell I Ddod
21/5/21
Recordiau JigCal
Yn dilyn rhyddhau dwy sengl dros y flwyddyn anarferol hon 'Awst '93' a 'Dim Ffiniau' bydd Mei Gwynedd yn rhyddhau sengl newydd sbon 'Dyddiau Gwell i Ddod' sy'n anthem bositif yn dathlu'r newid hir disgwyliedig sy'n digwydd yn ein bywydau ar hyn bryd.
Dywed Mei Gwynedd "Roedd y flwyddyn dwythaf yn anodd iawn I lawer o bobol , ac roeddwn yn teimlo fy mod i angen ysgrifennu can i grynhoi yr hyn a ddigwyddodd. Os na byswn ni yn rhoi y profiad yma mewn ffurf cân, bysw ni’n teimlo fy mod yn trio osgoi pwnc anferth a ddigwyddodd. Ond ma hon yn gân o obaith, a phenderfynais ysgrifennu cân y fwyaf dyrchafol bosib, gan obeithio fod pennod newydd cyffrous o'n blaenau.”
Dyma'r sengl olaf o dair cân fydd yn ymddangos ar LP newydd Mei Gwynedd fydd yn cael ei ryddhau eleni ar Recordiau JigCal. Bydd 'Dyddiau Gwell i Ddod' yn cael ei ryddhau ar 21 Mai ac mae wedi'i ddewis fel Trac yr Wythnos i BBC Radio Cymru.
After releasing two singles during this strange year ‘Awst ’93’ and ‘Dim Ffiniau’ Mei Gwynedd will be releasing a brand new single ‘Dyddiau Gwell i Ddod’ (Better Days are Coming’), a postive anthem to celebrate the long awaited changes that are happening in our lives at the moment.
Mei Gwynedd says "The last year was very difficult for many people, and I felt I needed to write a song to summarize what happened. If I hadn't put this experience into song, I felt like I was trying to avoid a huge thing that touched our lives in many way. But this is a song of hope, and I decided to write the most uplifting song possible, hoping that an exciting new chapter is ahead. ”
This is the last single of three songs that will appear on Mei Gwynedd's new LP which will be released this year on JigCal Records. ‘Dyddiau Gwell i Ddod' will be released on May 21 and has been selected as BBC Radio Cymru's Track of the Week.