Рет қаралды 280
An extract from a work for narrators and chamber orchestra composed by Gareth Glyn in 1970, during his time at University. Here Cefin Roberts plays two parts - the idealistic young man (the Lark) and the set-in-his ways chapel elder (the Gander).
Cafodd y darn hwn ei gyfansoddi pan oedd Gareth Glyn yn dal yn y Brifysgol, ym 1970, a'i ddarlledu ar y BBC yn fuan wedyn. Geiriau ei dad, y Prifardd T. Glynne Davies, gafodd eu gosod, ond i lefarwyr yn hytrach na chantorion. Mae Cefin Roberts yn portreadu dau gymeriad yma -- yn gynta yr Hedydd, sef gŵr ifanc sy'n dyheu am dorri'n rhydd o draddodiadau'r Gymru y mae o'n eu gweld o'i gwmpas o, ac yna'r Clagwydd, dyn canol-oed, bodlon ei fyd, sy'n ymhyfrydu yn y traddodiadau hynny. Yn y detholiad byr yma o'r cyfanwaith, mae'r Hedydd yn mynegi ei atgasedd at yr hyn y mae o'n ei weld yn gulni a rhagrith pobol y capel.