Y GÊM LAWN | Cei Connah 2-1 Y Seintiau Newydd | Rownd Derfynol Cwpan Cymru JD

  Рет қаралды 1,365

Sgorio

Sgorio

Ай бұрын

PÊL-DROED BYW: Cei Connah v Y Seintiau Newydd | C\G 5.25
Brynhawn Sul, bydd Y Seintiau Newydd yn anelu i gwblhau’r trebl domestig am y trydydd tro yn eu hanes, a chodi Cwpan Cymru JD am y 10fed tro.
Dyw’r Seintiau Newydd heb golli gêm ddomestig ers Chwefror 2023, a cewri Croesoswallt yw’r clwb cyntaf i fynd drwy dymor cyfan heb golli gêm yn Uwch Gynghrair Cymru ers Y Barri yn 1997/98.
Ers colli 3-2 yn erbyn Met Caerdydd ar Gampws Cyncoed mewn gêm gynghrair ar 11 Chwefror 2023, mae’r Seintiau wedi mynd ar rediad o 53 o gemau domestig heb golli, gan ennill 49 o rheiny.
Yn ogystal â hynny, mae’r Seintiau Newydd wedi ennill 25 gêm yn olynol yng Nghwpan Cymru gan godi’r gwpan deirgwaith yn olynol (curo Cei Connah, Pen-y-bont a’r Bala yn y dair rownd derfynol).
Y tymor diwethaf fe enillodd y Seintiau o 6-0 yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Y Bala, sef y fuddugoliaeth fwyaf mewn ffeinal ers 1931.
Dyna oedd y 9fed tro i’r clwb o Groesoswallt gael eu henw ar y cwpan, a bellach dim ond Wrecsam (23), Caerdydd (22) ac Abertawe (10) sydd â record well yn y gystadleuaeth.
Cei Connah oedd y tîm diwethaf i guro’r Seintiau Newydd yng Nghwpan Cymru, ac hynny yn rownd wyth olaf 2017/18, cyn i’r Nomadiaid fynd ymlaen i godi’r cwpan ar ôl curo Aberystwyth o 4-1 ar Barc Latham dan arweiniad Andy Morrison.
Dyna’r unig dro yn yr 11 mlynedd diwethaf i’r Seintiau fethu â chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru.
Cafodd y Seintiau ddial y flwyddyn ganlynol, yn curo’r Nomadiaid o 3-0 yn rownd derfynol 2018/19 ar y Graig gyda Ryan Brobbel yn sgorio dwy gic rydd o bellter.
Fe lwyddodd Cei Connah a’r Seintiau Newydd i gyrraedd y rownd gynderfynol eleni yn weddol ddi-ffwdan, a dyw’r Nomadiaid heb orfod teithio’n bell iawn o gartref.
Chwaraeodd y Nomadiaid eu tair gêm gwpan gyntaf ar eu cae cartref yng Nghae-y-Castell (vs Caernarfon, Prestatyn a’r Fflint), cyn gwneud y daith fer i Fwcle, ac yna i gae niwtral Llandudno ar gyfer y rownd gynderfynol yn erbyn Y Bala, ble sgoriodd Cei Connah unig gôl y gêm yn y funud olaf.
Mae’r Seintiau wedi gorfod teithio dipyn pellach, gan ennill oddi cartref yn Rhuthun, Caerfyrddin a Llansawel, gydag un gêm gartref yn erbyn Adar Gleision Trethomas yn y canol.
Cynhaliwyd rownd gynderfynol y Seintiau ar Barc Latham, lle daethon nhw’n ôl o fod yn colli 2-0, i ennill 6-2 yn erbyn Met Caerdydd.
Eleni yw dim ond yr eildro ers ffurfio’r fformat 12-tîm yn 2010 i’r ddau uchaf yn y gynghrair gyrraedd rownd derfynol y gwpan, a’r Seintiau Newydd a Chei Connah oedd y ddau dîm yr adeg hynny hefyd yn nhymor 2018/19.
Yr unig dro arall i’r ddau uchaf yn Uwch Gynghrair Cymru gyrraedd rownd derfynol y gwpan oedd yn 2003/04 pan enillodd y pencampwyr, Y Rhyl o 1-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Dyma’r pedwerydd tro i Gei Connah gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru, yn colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Bangor yn 1997/98, curo Aberystwyth yn 2017/18, a cholli yn erbyn YSN yn 2018/19.
Mae’r Seintiau wedi chwarae mewn 13 ffeinal, yn ennill naw a cholli ar bedwar achlysur.
Mae hi wedi bod yn dymor o dorri recordiau i griw Craig Harrison sydd wedi llwyddo i orffen yr ymgyrch gyda’r nifer fwyaf o bwyntiau ers ffurfio’r fformat 12-tîm (92pt) a sgorio’r nifer fwyaf o goliau (117 gôl).
Mae’r Seintiau wedi gorffen y tymor 33 o bwyntiau uwchben Cei Connah, sef y bwlch mwyaf erioed rhwng 1af ac 2il ar ddiwedd tymor yn ystod fformat y 12-tîm.
Dechreuodd y tymor gyda dwy fuddugoliaeth yn olynol yn erbyn Cei Connah (yng Nghwpan Nathaniel MG ac yn y gynghrair), a bydd y pencampwyr yn gobeithio gorffen y tymor yn yr un modd ar ôl trechu’r Nomadiaid o 2-0 mewn gêm gynghrair y penwythnos diwethaf.
Mae’r Seintiau ar rediad o chwe buddugoliaeth yn olynol yn erbyn Cei Connah, ac heb golli mewn naw gornest yn erbyn y Nomadiaid ers y golled ar giciau o’r smotyn yn ngêm gynta’r tymor diwethaf yng Nghwpan Nathaniel MG.
Mae gan rheolwr Cei Connah, Neil Gibson atgofion melys o godi’r cwpan fel chwaraewr-reolwr Prestatyn yn 2013, a bydd y gŵr 44 oed yn gobeithio gallu ennill un o brif-dlysau Cymru am y tro cyntaf ers degawd.
Dyma’r tro cyntaf i’r rownd derfynol gael ei chynnal yng Nghasnewydd ers 1980, gyda Casnewydd yn curo’r Amwythig o 2-1 yn eu hen gartref ym Mharc Somerton y diwrnod hwnnw.
Ond dyma’r tro cyntaf i’r rownd derfynol gael ei chynnal yn Rodney Parade, a bydd selogion y Seintiau a’r Nomadiaid yn gobeithio y bydd hi’n daith i’w chofio i dde-ddwyrain y wlad yng ngêm ola’r tymor i’r ddau glwb.
Rownd Gynderfynol: Cei Connah 1-0 Y Bala, Met Caerdydd 2-6 YSN
Rownd Wyth Olaf: Bwcle 1-4 Cei Connah, Llansawel 1-5 YSN
4edd Rownd: Y Fflint 0-3 Cei Connah, Caerfyrddin 0-3 YSN
3edd Rownd: Cei Connah 8-0 Prestatyn, YSN 7-0 Adar Gleision Trethomas
2il Rownd: Cei Connah 4-1 Caernarfon, Rhuthun 0-5 YSN

Пікірлер
UNITED FEAR OLISE TRANSFER SNUB! YORO TRANSFER BID? Man Utd News
The United Stand
Рет қаралды 11 М.
ХОТЯ БЫ КИНОДА 2 - официальный фильм
1:35:34
ХОТЯ БЫ В КИНО
Рет қаралды 2,3 МЛН
Shore Fishing LIVE SHOW!! Till Midnight!
Local Marks Fishing
Рет қаралды 237
Welsh National Anthem, Wales vs Belgium 11/06/2022
1:31
Jeremy Stone
Рет қаралды 29 М.
Bois y Waun "O Gymru"
3:06
ecstrasi
Рет қаралды 37 М.
CPD Dyffryn Banw | "Dad's Army ma nhw'n galw ni."
5:18
裁判说了啥,懂得翻译一下! #格斗  #裁判#shorts
0:17
100% Disrespectful Moments 😥
0:24
Naples90
Рет қаралды 11 МЛН
Mini Ronaldo Revenge 🔥🥶 #viral #football #MiniRonaldo
0:20
Mustahib
Рет қаралды 1,9 МЛН
Сантьяго Бернабеу проводил Тони Крооса 🥺
1:00
Setanta Sports Football
Рет қаралды 200 М.
When De bruyne needs Haaland 🤨
0:31
D'Football Genius
Рет қаралды 3,9 МЛН