Рет қаралды 12,513
Bryn Fôn a'r Band" oedd y ffenics a gododd o lwch Sobin a'r Smaeliaid ar ddechrau 90au y ganrif ddiwethaf . Roedd eu halbwm gyntaf - "Dyddiau Di-gymar " sef casgliad o ganeuon gan y cyfansoddwr amryddawn Emyr Huws Jones , yn un o'r cd's mwyaf poblogaidd erioed. Ac yn fwy diweddar roedd gwerthiant anhygoel y cd "Abacus" (2004) yn profi fod poblogrwydd y band yn cynyddu .